Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Ionawr 2021
Amser:
09.35 -
11.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11118
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Mick Antoniw AS (yn lle Alun Davies AS) Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Matt Wellington, Llywodraeth Cymru Anna Adams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS. Roedd Mick Antoniw AS yn dirprwyo ar ei ran.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 7
2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol; Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni’r Gyllideb; ac Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu, ar graffu ar gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod ar 27 Ionawr 2021.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth / prif faterion
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Trafod yr adroddiad drafft
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.